Sunday, 26 July 2015

Emily Jones shares her preparation for the Annual Fancy Dress competition

The fancy dress preparations have begun! Local shops shiver in fear as they are terrorised by member of the Nash in search of cardboard, paint and various craft items in readiness for Wednesday night. Our kitchen is currently full of dirty paintbrushes and oddly shaped cardboard and most other kitchens in the university accommodation are too.


The competition is fierce for this year’s difficult theme of Dukas’ ‘La Peri’ – everybody wants the best costume and everyone is fighting for the most original idea.

Unfortunately, the details of our group’s costume are secret and cannot be disclosed on a public forum that other members of the orchestra may see. All will be revealed on Wednesday evening when we are certain that there is no longer any chance of nashers stealing our ideas. Expect an update later next week!


 

Friday, 24 July 2015

Catrin reflects on her 1st few days on 'The Nash'. / Uchafbwyntiau'r diwrnodau cyntaf Catrin ar y 'Nash'.

Fy enw i yw Catrin Williams a’r flwyddyn hon rwyf wedi cael fy newis i fod yn aelod o Gerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2015. Fel myfyriwr cerdd ym mhrifysgol Birmingham, mae cael fy newis i fod yn aelod o gerddorfa ieuenctid cyntaf y byd yn fraint anhygoel. Rwyf wedi mwynhau dyddiau cyntaf y cwrs yn fawr iawn ac wedi cael cymryd rhan mewn ambell o weithgareddau cymdeithasol. Mae pawb yma’n gyfeillgar ac yn barod i ymdrechu’n galed er mwyn cynhyrchu cyngerdd o safon uchel. Mae o hefyd wedi bod yn hwyl cael chwarae amryw o ddarnau newydd. Ar ol cael ychydig o dyddiau gyda Adrian Dunn (tiwtor 1st violins) yn arwain, rydym newydd gael ein ymarfer cyntaf gyda Paul Daniel. Rwy’n edrych ymlaen i weddill y cwrs ac ar gyfer y cyngerddau sy’n cael ei cynnal ar draws Cymru. Mae yna hefyd  amryw o weithgareddau hwyl eraill, fel paratoi ar gyfer noson ‘ffansi dress’, syn draddodiad blynyddol yn ol son. Mae’r cwrs wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yn hyn ac mae’n anrhydedd mawr cael bod yn rhan anhono.


My name is Catrin Williams and this year I have been chosen to be a member of the National Youth Orchestra of Wales 2015. As a music student at the University of Birmingham, being chosen to be a member of the first youth orchestra in the world is a massive honour. I’ve immensely enjoyed the first few days of the course and have enjoyed taking part in various social activities. It’s also definitely been great fun playing a variety of repertoire. After a few days with Adrian Dunn (1st violin tutor) conducting the orchestra, Paul Daniel has arrived today and we’ve just had our first full rehearsal with him. I’m looking forward to the rest of the course and performing in the concerts across Wales. I’m also looking forward to the rest of the social activities, especially the fancy dress night, which I’ve heard is a ‘Nash tradition’. The course has been great so far and I feel very privileged to be a member.

Catrin Williams (Ffidl / Violin)

Tuesday, 21 July 2015

Elain gives her thoughts on the NYOW Residency so far / Dyma trosolwg Elain o'r cwrs hyd at hyn.

Gyda ail ddiwrnod y cwrs bron a dod i ben, rydw i’n teimlo’n hollol gartrefol yng nghwmni teulu’r Nash. Mae aelodau’r gerddorfa, y staff a’r tiwtoriaid yn hynod o glen ac mae pawb fel un teulu mawr. Roedd hi’n braf cael cyfle i ddod i adnabod aelodau y grwpiau lles yn well neithiwr ac rwy’n edrych ymlaen at y gweithgareddau nosweithiol fel yr Olympics heno! Roedd yr ymarfer llawn cyntaf neithiwr yn deimlad rhyfeddol ac roedd hi’n braf cael cyd-chwarae gyda offerynnau’r gerddorfa a cherddorion mor dalentog – oedd yn gwneud i mi edrych ymlaen hyd yn oed yn fwy at y cyngherddau!

Mae’r lleoliad preswyl yn hynod o hwylus a’r bwyd yn fendigedig (!). Mae ymarferion adrannol y telynnau wedi bod yn andros o hwyl dan arweiniad Eluned Pierce. Edrychaf ymlaen at ginio’r tiwtoriaid nos Wener i ddiolch iddi am ei gwaith.


Rwy’n edrych ymlaen i weld beth fydd y cyfansoddwyr ifanc wedi eu cyfansoddi ar gyfer y telynnau ar ol iddynt ddod draw i gwrdd a’r telynnau ac i gael gwybod mwy am dechnegau’r delyn yn gynharach heddiw. Bydd cael clywed y darnau gorffenedig yn un o uchafbwyntiau’r cwrs yn sicr!