Tuesday, 21 July 2015

Carolyn looks forward to the NYOW concert in North Wales! / Mae Carolyn yn edrych ymlaen at gyngerdd CGIC yng Ngogledd Cymru

In 2012 I had the most phenomenal time on my first Nash course. Nearly everything was perfect... apart from not having a concert in North Wales! For the following two years we were lucky enough to do a concert in North Wales (Llandudno 2013 and St Asaph 2014) and the number of 'Gogs' in the Nash has increased year by year - yaaay!! In 2012 we had 5 members from Gwynedd & Mon and a total of 15 North Walians - now we've doubled it to 10 from Gwynedd & Mon and nearly 30 Gogs this year. In the violins we now have 14 from NW which I think is just incredible. This year we're lucky enough to be playing in PJ Hall Bangor, which I'm SO excited about as it's in my home area and such a beautiful hall. I have loads of great memories of PJ as I've done many concerts in the hall from County GYWM orchestra concerts to the North Wales Youth Orchestra concerts and I can't wait to add the Nash to that list!

As the North Wales concert is in my home area, I've been busy helping the Nash publicity team advertise the concert as much as possible - from online advertising on Facebook and Twitter to sticking up posters all around the town to handing out flyers to as many people as possible! Having a decent audience gives us as performers such a great buzz and I would absolutely love to share our music-making with as many people as possible. So I guess I'd better do a final advertising post to end this blog... 28th July 7:30pm, PJ Hall Bangor - Do not miss what promises to be a spectacular concert by the World's first National Youth Orchestra! Please come along to support us and bring all your family and friends with you - magnificent musicians playing marvellous music in a breathtaking venue, what more could you want?! Oh, and it's also our first concert of the tour so it would be great to get the 2015 Nash tour off to a cracking start in North Wales!!!

Prichard Jones Hall, Bangor
28 July, 7.30pm
£14 (£12), £5 rhai dan 25
03700 101 051
Yn 2012 cefais yr amser mwyaf anhygoel ar fy nghwrs Nash gyntaf. Oedd bron popeth yn berffaith... ar wahân i beidio cael cyngerdd yng Ngogledd Cymru! Am y ddwy flynedd nesaf roeddem yn ddigon ffodus i wneud cyngerdd yng Ngogledd Cymru fel rhan o'r daith Nash (Llandudno 2013 a Llanelwy 2014) ac mae'r nifer o 'Gogs' yn y Nash wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn - ieeei!! Yn 2012 roedd gennym 5 aelod o Wynedd a Môn a cyfanswm o 15  Gogs, a rwan rydym wedi dyblu i 10 o Wynedd a Môn a bron i 30 Gogs eleni. Yn enwedig yn y ffidlau gan fod gennym 14 ffidl o NW sydd yn fy marn i yn anhygoel. Eleni rydym yn ddigon ffodus i gael gyngerdd arall yng Ngogledd Cymru a bydd hwn yn cael ei gynnal yn Neuadd PJ, Bangor a dwi MOR gyffrous am hyn gan ei fod yn fy ardal gartref ac yn neuadd mor brydferth. Mae gen i lawer o atgofion wych o PJ gan fy mod i wedi gwneud llawer o gyngherddau yn y neuadd - o gyngherddau gerddorfa sir GYWM at y cyngherddau Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru a dwi'n edrych ymlaen at ychwanegu'r Nash at y rhestr hon!



Gan fod y cyngerdd Gogledd Cymru yn fy ardal cartref, rydw i wedi bod yn brysur yn helpu'r Nash hysbysebu cyngerdd PJ cymaint â phosibl - o hysbysebu ar-lein o Facebook a Twitter i rhoi posteri fyny o amgylch y dref i ddosbarthu flyers i gymaint o bobl ag dwi'n gallu! Mae cael cynulleidfa dda yn rhoi 'buzz' mor wych i ni fel perfformwyr a byddwn wrth fy modd i rannu ein cerddoriaeth gyda chymaint o bobl ag sy'n bosib. Felly ddylwn i orffen y blog yma gyda hysbyseb arall dwi'n meddwl... 28 Gorffennaf 7:30pm,  Neuadd PJ Bangor - Peidiwch â cholli allan ar wylio be sydd am fod yn gyngerdd ysblennydd gan y Gerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid cyntaf yn y byd! Dewch i'n cefnogi a dewch a'ch holl deulu a'ch ffrindiau - cerddorion gwych yn chwarae cerddoriaeth gwych mewn lleoliad syfrdanol, beth arall y gallech chi eisiau?! O, ac mae hwn hefyd yn ein cyngerdd cyntaf y daith felly byddai'n wych i gychwyn y daith Nash 2015 gyda dechrau dda yn Ngogledd Cymru!!!

Neuadd Prichard Jones, Bangor
28 Gorfennaf, 7.30pm
£14 (£12), £5 rhai dan 25
03700 101 051

No comments:

Post a Comment