Saturday, 4 July 2015

Carolyn Burton share her thoughts on the NYOW experience!

Rydym ni mor lwcus i gael y siawns i berfformio mewn llawer o leoliadau anhygoel fel rhan o'r daith Nash; o acwsteg hardd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro (lle dwi'n cofio Carlo Rizzi yn prynu hufen iâ i bawb ar fy nghwrs Nash cyntaf!) i'r Konzerthaus trawiadol ym Merlin. Fel 'Gog' dwi bob amser yn edrych ymlaen at berfformio yn y Gogledd, gan fod yma fel arfer ydy'r lle mae rhan fwyaf o fy nheulu a ffrindiau yn dod i'n gweld. Eleni, bydd ein cyngerdd Gogledd Cymru yn Neuadd PJ, Bangor a dwi MOR gyffrous gan ei fod yn fy hoff leoliad i chwarae cyngerdd yng Ngogledd Cymru - mae'r acwsteg yn ffantastig, mae'r neuadd yn ysblennydd ac mae gen i gymaint o atgofion da yno!! Roeddwn yn 11 pan glywais y Nash am y tro cyntaf, yn PJ yn 2007 (a meddyliais 'WOW mae nhw'n anhygoel, dwi byth am gael i mewn iddo!'), ac yn awr ar ôl llwyddo cael lle yn Nash (a gan fod y Nash heb chwarae yn PJ ers i mi fod yn aelod) dwi hynod o gyffrous i gael y cyfle i chwarae yn fy ardal gartre gyda'r gerddorfa. I unrhyw un yng Ngogledd Cymru ar 28 Gorffennaf - mae hwn yn gyngerdd beidio â cholli!!!


We're so lucky to be able to perform in loads of incredible venues as part of the Nash tour; from the beautiful acoustics of St David's Cathedral in Pembrokeshire (where I also remember Carlo Rizzi buying everyone an ice-cream on my first Nash course!) to the stunning Konzerthaus in Berlin. As a 'Gog' I always look forward to performing in North Wales, as this is usually where most of my family and friends come to see us. This year our North Wales concert will be in PJ Hall, Bangor and I'm MEGA excited as it's my favourite concert venue to play in in North Wales - I love the acoustics, the hall is just spectacular and I have so many great memories there!! I was 11 when I first heard the Nash, in PJ in 2007 (and thought 'WOW they're amazing! I'm never going to be good enough to get into that!'), and now that I've managed to get into the Nash (and as the Nash haven't played in PJ since I've been a member) I'm extremely excited to have the chance to play in my home area with the orchestra. To anyone in North Wales on the 28th July - this is a concert not to miss!!!

No comments:

Post a Comment