Gyda ail ddiwrnod y cwrs bron a dod i ben, rydw i’n teimlo’n
hollol gartrefol yng nghwmni teulu’r Nash. Mae aelodau’r gerddorfa, y staff a’r
tiwtoriaid yn hynod o glen ac mae pawb fel un teulu mawr. Roedd hi’n braf cael
cyfle i ddod i adnabod aelodau y grwpiau lles yn well neithiwr ac rwy’n edrych
ymlaen at y gweithgareddau nosweithiol fel yr Olympics heno! Roedd yr ymarfer
llawn cyntaf neithiwr yn deimlad rhyfeddol ac roedd hi’n braf cael cyd-chwarae
gyda offerynnau’r gerddorfa a cherddorion mor dalentog – oedd yn gwneud i mi
edrych ymlaen hyd yn oed yn fwy at y cyngherddau!
Mae’r lleoliad preswyl yn hynod o hwylus a’r bwyd yn
fendigedig (!). Mae ymarferion adrannol y telynnau wedi bod yn andros o hwyl
dan arweiniad Eluned Pierce. Edrychaf ymlaen at ginio’r tiwtoriaid nos Wener i
ddiolch iddi am ei gwaith.
Rwy’n edrych ymlaen i weld beth fydd y cyfansoddwyr ifanc
wedi eu cyfansoddi ar gyfer y telynnau ar ol iddynt ddod draw i gwrdd a’r
telynnau ac i gael gwybod mwy am dechnegau’r delyn yn gynharach heddiw. Bydd
cael clywed y darnau gorffenedig yn un o uchafbwyntiau’r cwrs yn sicr!
No comments:
Post a Comment